Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Tachwedd 2021
Amser:
09.00 -
09.15
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at ychwanegu'r Datganiad ar COP26, a gyflwynir gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae datganiad ar Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd a datganiad ar Gynllun Tai Cymunedau Cymraeg a ychwanegwyd yn flaenorol at agenda heddiw, wedi’u gohirio.
Egwyliau
Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau i adael y Siambr yn ystod yr egwyliau, fel y gall staff gyflawni'r paratoadau angenrheidiol wrth gadw pellter addas.
Bil Aelod - defnyddio'r bleidlais fwrw
Hysbysodd y Llywydd y Pwyllgor Busnes, pe bai pleidlais gyfartal ar y cynnig yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod yr wythnos hon, y byddai'r bleidlais fwrw yn cael ei defnyddio o blaid yn unol â'r canllawiau cyfredol. Fodd bynnag, mae'r Llywydd yn bwriadu adolygu'r canllawiau i sicrhau ei fod yn gyson ar draws pob math o gynigion a bydd yn sicrhau bod Rheolwyr Busnes yn ymwybodol o unrhyw ddiwygiadau.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cynghorodd y Trefnydd y Pwyllgor Busnes nad oedd unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 1 Rhagfyr 2021 –
Dydd Mercher 8 Rhagfyr 2021 –
3.4 Cynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig a ganlyn i’w drafod ar 24 Tachwedd:
NNDM7828
Rhys ab Owen
Peter Fox
Mike Hedges
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau diogelwch cladin ar adeiladau yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau diogelwch preswylwyr drwy sicrhau bod cladin diogel ar gael ar adeiladau.
4 Trefniadau Cyflwyno
4.1 Toriad y Nadolig 2021: Trefniadau cyflwyno a gosod
Toriad y Nadolig 2021: Trefniadau cyflwyno a gosod
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
5 Unrhyw faterion eraill
Enwebiadau ar gyfer Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau - Grŵp Cyswllt y DU.
Cynghorodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y byddai'n gwneud yr enwebiadau a ganlyn:
Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol:
Pwyllgor y Rhanbarthau – Grŵp Cyswllt: